Cliciwch YMA i gyfeirio i Canllaw

-

 

 

Newyddion CANLLAW

 

 

Cyd-drefnydd Newydd Canllaw

 

 

Cynllun Cwympo'n ennill gwobr

 

 

Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda

 

 

Adroddiad Gwerthuso Canllaw 2007-8

 

 

Adolygiad o Canllaw yn y "Journal of Nursing Management"

 

 

Canllaw'n ennill gwobr

 

Cyd-drefnydd Dros-Dro Newydd i Canllaw

Yn dilyn ymadawiad Huw Dylan Owen o Canllaw apwyntiwyd cy-drefnydd newydd I’r gwasanaeth am gyfnod o 6 mis.  Mae Val McPherson, geithiwr cymdeithasol o ran proffesiwn, o fewn Canllaw am dros 3 blynedd, fel gweithiwr cymdeithasol ac fel arweinydd tim.

 

Bydd Val yn gweithio I sicrhau fod datblygiad Canllaw yn parhau’n effeithiol ar draws sir Gaerfyrddin.

YN OL I'R PEN

Cynllun Cwympo'n ennill gwobr


Cyflwynwyd gwobr i Gynllun Cwympo Sir Gaerfyrddin gan Lywodraeth y Cynulliad ym Mai 2008 am y gwaith a wnaed i sicrhau fod y digwyddiadau cwympo yn galluogi mynediad dwyieithog rhwydd i'r gwasanaeth.

Mynegodd y beirniaid glod penodol am y gweithio ar y cyd rhwng y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn Sir Gaerfyrddin.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun cwympo YMA.

YN OL I'R PEN

Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda


Gelwir y cyfuno rhwng Ymddiriedolaethau GIG Sir Benfro a Derwen, Ceredigion a Chanolbarth Cymru a Sir Gaerfyrddin yn Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda.  Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth newydd yn swyddogol ar y 1af Ebrill 2008.

YN OL I'R PEN

Adroddiad Gwerthuso Canllaw 2007-8


Mae Adroddiad Gwerthuso Canllaw o Ebrill 2007 hyd at Mawrth 2008 ar gael nawr fel dogfen grynodeb byr yn ogystal a'r adroddiad technegol llawn.

Dengys yr adroddiad arbedion ariannol i'r adran gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal a'r Ymddiriedolaeth GIG Sir GaerfyrddinYn bwysicach, serch hynny, yw'r astudiaethau achos o fewn yr adroddiad sy'n rhoi mewnwelediad i'r budd a geir gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar draws y sir.

Mae'r adroddiad gwerthuso ar gael i'w lawrlwytho fel dogfen grynodeb neu fel dogfen lawn dechnegol, ynghyd a'r gwerthusiadau o'r blynyddoedd blaenorol a dogfennau cyffelyb perthnasol.  I fynd i'r dudalen llwytho adroddiadau cliciwch YMA.

YN OL I'R PEN

Adolygiad o Canllaw yn "Journal of Nursing Management"

Thomas V. & Lambert S.(2008) Journal of Nursing Management. 16(2):181-187

Dyma'r wybodaeth fel a geir gan y cylchgrawn:

"An ethnographic study of intermediate care services in Wales: the hidden work

Aim: To explore the perceptions of staff working in and referring to community-based intermediate care teams in Wales. Background

Central and devolved governments have high expectations of intermediate care to promote independence and quality of life for older people and to solve the system pressures within the acute hospital sector. Developing an evidence base of the effectiveness of a model of care that is characterized by diversity and difference in practice is problematic. Method

Fourth generation ethnographic evaluation involving focus groups, non-participant observations and semi-structured interviews with people working within and referring to intermediate care teams. Preliminary findings

Strong evidence of interprofessional working demonstrated by shared responsibility, coordinated rather than parallel services, understanding of other organizations and recognition and resolution of conflict areas. This generated work which traditional measures would not identify. Implications for nursing management

Evaluation is inherent in the work of healthcare professionals and managers. Managers need to aware of the systems and structures within which they are required to manage. This is important for intermediate care services as the heterogeneity contributes to the challenges encountered by managers when seeking to describe services and measure their effectiveness. Applying an appropriate evaluation framework will facilitate both.

Affiliations: Val Thomas: Doctoral Student and Tutor, School of Health Science, Swansea University, Swansea & Sue Lambert: Centre Head, School of Health Science, Swansea University, Swansea, UK "

 

 

 

 

 

YN OL I'R PEN

Canllaw'n ennill gwobr

 

Gwobrau y Gymraeg yn y Gwasanaethau Gofal 2007


Gwobrwywyd Canllaw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2007 am y gwaith a wnaed i sicrhau fod yr asiantaethau partnerol yn cydweithio ar draws y finiau traddodiadol er mwyn darparu gwybodaeth gyda mynediad rhwyd dwyieithog i'r cyhoedd.

 

YN OL I'R PEN

Useful Links

Cyngor Sir Gār
Ymddiriedolaeth GIG Sir Gār  
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gār
Bwrdd Partneriaeth Sir Gār
Llywodraeth Cynulliad Cymru

Change Agent Team (Saesneg)
The King's Fund (Saesneg)

 

 

 

 

0

Hawlfraint © 2006-2008 Canllaw - Adolygwyd y dudalen ar 1 Rhagfyr 2008