|
·
Sut alla i dderbyn gwasanaeth gan Canllaw?
Os
ydych chi'n gymwys am wasanaeth gan Canllaw dylech drefnu fod
unigolyn proffesiynol o unai'r gwasanaeth iechyd neu'r gwasanaethau
cymdeithasol yn eich cyfeirio atom. Nid yw Canllaw yn derbyn
cyfeirebau yn syth gan y cyhoedd. Dylai'r unigolyn proffesiynol
sicrhau eich bod yn gymwys ac unai ein ffonio neu yrru ffurflen
ymholiad UAP atom.
·
Sut mae gwybod os ydw i'n gymwys i gael gwasanaeth gan
Canllaw?
Mae'r
Canllawiau Mynediad swyddogol YMA, neu mae fersiwn syml a Chymraeg i'w
gael YMA.
·
Sut alla i ddisgwyl i Canllaw fy nhrin a sut fath o
wasanaeth ddylwn i ei gael?
Gwnaiff
staff Canllaw asesu eich anghenion ac ymweld â chi i ddarparu
gwasanaeth adfer o fath ac ar amser cywir. Darperir y
gwasanaeth am hyd at 6 wythnos (gallai hynny olygu cyn lleied ag 1
wythnos o fewnbwn ac hyd at 6 wythnos). Mae meini prawf ein
gwasanaeth i'w gweld ar y dudalen Llwybrau Gofal ar y wefan hon, i'w gael YMA, ac mae'n rhoi disgrifiad manwl o
brosesau a safonau'r gwasanaeth.
·
Hoffwn weithio i Canllaw. Oes swyddi gwag ar hyn
o bryd?
Hysbysebir
pob hysbyseb drwy ein hasiantaethau partner. Mae dolennau i'r
holl hysbysebion swyddi YMA.
Oes oes unrhyw cwestiwn
pellach gyda chi - cysylltwch gyda ni.
|