|
Cam 1 –
Ymchwiliad gan Canllaw
Byddwn yn ceisio datrys y broblem yn ddi-oed ar ôl derbyn eich
cwyn. Gwnawn hyn drwy ddarparu gwybodaeth neu drwy gymryd camau
priodol.
Cysylltwch â’r aelod o’r staff, neu'r arweinydd tîm
perthnasol, wnaeth ddelio â chi yn y lle cyntaf.
Ein nod yw ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cwyn.
Weithiau, bydd angen mwy o amser arnom ond byddwn yn esbonio’r
rheswm dros unrhyw oedi (cyn
pen y 10 niwrnod) ac yn rhoi gwybod pryd y medrwch
ddisgwyl cael ateb llawn.
Yr Ail Gam
– Ymchwiliad gan Cydlynydd Canllaw
Os na fyddwch chi’n hapus
â’n hymateb ar ddiwedd y Cam cyntaf, cewch ofyn i’r Cydlynydd
ailedrych ar eich cwyn. Gofynnir i chi wneud hyn cyn pen 10 diwrnod
gwaith ar ôl derbyn yr ymateb.
Bydd y Swyddog hwn yn ymchwilio
i’ch cwyn.
Ein nod yw ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais am
fwrw ymlaen â’r ail gam. Weithiau, bydd angen mwy o amser
arnom ond byddwn yn esbonio’r rheswm dros unrhyw oedi (cyn pen y 10 niwrnod) ac yn
rhoi gwybod pryd y medrwch ddisgwyl cael ateb llawn.
Y
Trydydd Cam – Ymchwiliad gan Brif Weithredwr
Os ydych chi’n dal i
deimlo’n anfodlon, cewch ofyn i Brif Weithredwr o unrhyw un o'r
asiantaethau partner ystyried eich cwyn. Gofynnir i chi wneud hyn
cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr ymateb. Mae eu manylion
cysylltu i'w gael drwy ddewis ar y ddewislen ar ochr chwith y ddalen hon.
Mae’r Prif Weithredwyr yn annibynnol. Nid yw’n rhan
o’r gwasanaeth y gwnaed cwyn yn ei gylch a bydd yn
ymchwilio’n llawn ac yn ddiduedd i’ch cwyn.
Ein nod yw ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais am
fwrw ymlaen â’r trydydd cam. Weithiau, bydd angen mwy o amser
arnom ond byddwn yn esbonio’r rheswm dros unrhyw oedi (cyn pen y 10 niwrnod) ac yn
rhoi gwybod pryd y medrwch ddisgwyl cael ateb llawn.
Hwn yw’r cam olaf yng
ngweithdrefn gwynion fewnol Canllaw.
Cysylltu
â’r Ombwdsman
Rydym yn gobeithio y bydd modd
datrys unrhyw broblemau yn gyflym ac yn llwyddiannus gan
ddefnyddio’r weithdrefn gwynion. Fodd bynnag, os nad ydych
chi’n fodlon ar y ffordd y buom yn delio â’ch cwyn, cewch
gysylltu â’r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r
Ombwdsman yn wasanaeth cenedlaethol annibynnol sy’n ymchwilio i
gwynion ynghylch cynghorau lleol.
Dalier sylw: Fel arfer bydd yr
Ombwdsmon yn disgwyl i chi fod wedi codi’r mater gyda’r corff
dan sylw, a rhoi cyfle rhesymol iddo i ymchwilio ac ymateb, cyn i chi
ddod ato ef.
Gellir anfon cwyn at yr Ombwdsman
yn y cyfeiriad isod:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Rhif ffôn: 0845 601 0987 (cost
galwad lleol)
Rhif ffacs: 01656 641199
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
Y we: www.ombudsman-wales.org.uk
Mae gan yr Ombwdsman Gwasanaethau
Cyhoeddus daflen o’r enw ‘Sut i Gwyno am Gorff
Cyhoeddus’. Gellir cael copi ohono trwy ffonio’r rhif uchod
neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad uchod. Fel arall, gellir
cael copi o wefan yr Ombwdsman www.ombudsman-wales.org.uk
|